Dr Sara Louise Wheeler

Bardd, llenor, ac artist llawrydd yw Dr Sara Louise Wheeler. Mae hi’n ysgrifennu’r golofn ‘O’r Gororau’ i gylchgrawn Barddas, gan archwilio pob math o brofiadau ffiniol, gan gynnwys anableddau. Enillodd Sara gystadleuaeth ‘Geiriau Creadigol 2022’ gan ‘Celfyddydau Anabledd Cymru’ gyda’i cherdd ‘Ablaeth Rhemp y Crachach’, ac mae ei darlun ‘Tywod Amser y Clyw’ ar hyn o bryd ar daith o amgylch orielau celf Cymru fel rhan o’r arddangosfa ‘Aildanio’. Mae’n gwneud gwaith ymgynghorol ar hygyrchedd ac mae’n aelod o nifer o bwyllgorau a rhwydweithiau sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth; mae hi hefyd yn Is-Gadeirydd pwyllgor llên canolog Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mae Sara yn gweithio yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a’r cyffiniau, gan ddarparu gweithdai sy’n ymwneud â chreadigedd a llesiant.

Dr Sara Louise Wheeler is a freelance poet, littérateur, and artist. She writes the column ‘From the borders’ for Barddas magazine, exploring all kinds of marginal experiences, including disabilities. Sara won the ‘Creative Word 2022’ competition for ‘Disability Arts Cymru’ with her poem ‘Ablaeth Rhemp y Crachach’, and her drawing ‘The Sands of Hearing Time’ is currently touring the art galleries of Wales as part of the ‘Aildanio’ exhibition. She undertakes consultancy work on accessibility and is a member of numerous committees and networks relating to equality and diversity; she is also Vice-Chair of the central literature committee for the National Eisteddfod of Wales. Sara works in and around North-East Wales, providing workshops relating to creativity and wellbeing.

Website

Trawiad | Seizure

Trawiad | Seizure

£5.99

Bilingual

Pamffled o gerddi | A poetry pamphlet

More info →
Buy from Amazon