
Achos
Yn ei gyfrol Adennill Tir, mynegodd Grahame Davies brofiad cymunedau y Cymoedd gyda dicter ac angerdd. Yn ei ail gyfrol, Cadwyni Rhyddid, a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn, dinoethodd eironi a safonau dwbl y Gymru ôl-ddatganoli gyda ffraethineb. Yn awr, yn ei drydedd gyfrol, y mae'n bwrw golwg annibynnol ar y Gymru gyfoes, gan ofyn cwestiynau dyrys a holi, 'Sut mae'r achos?' -- Cyngor Llyfrau Cymru







